2012 Rhif 2555 (Cy. 279)

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Rheoliadau Asesu Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae (Cymru) 2012

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

 

 

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n cael eu gwneud o dan adran 11(1) (dyletswyddau awdurdod lleol ynghylch cyfleoedd chwarae i blant) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, yn nodi'r hyn y mae’n ofynnol ei gynnwys mewn asesiad awdurdod lleol o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae yn ei ardal (rheoliad 3). Mae’r Rheoliadau’n nodi’r unigolion a’r grwpiau y mae’n rhaid i awdurdod lleol ymgynghori â hwy (rheoliad 4). Yn ogystal, mae gofyniad bod pob awdurdod lleol yn llunio cynllun gweithredu fel rhan o’r asesiad (rheoliad 5). Mae'r Rheoliadau yn darparu ynghylch amlder yr asesiadau (rheoliad 6), a’r dull y mae’n rhaid ei ddefnyddio i gyhoeddi canlyniadau’r asesiadau (rheoliadau 7 ac 8).

 

 

 

 

 

 

 

2012 Rhif 2555 (Cy. 279)

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Rheoliadau Asesu Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae (Cymru) 2012

Gwnaed                                6 Hydref 2012                                                        

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru                      9 Hydref 2012

Yn dod i rym                                            2 Tachwedd 2012

 

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 11(1) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010([1]) yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

 

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Asesu Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae (Cymru) 2012 a deuant i rym ar 2 Tachwedd 2012.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.(1) Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “ardal awdurdod lleol” (“local authority area”) yw’r ardal ddaearyddol honno y mae awdurdod lleol yn gyfrifol amdani;

ystyr “asesiad” (“assessment”) yw'r asesiad sy'n cael ei wneud gan awdurdod lleol o dan adran 11(1) o'r Mesur;

mae “chwarae” (“play”) wedi ei ddiffinio yn adran 11(6) o'r Mesur;

mae “digonol” (“sufficient”) wedi ei ddiffinio yn adran 11(6) o'r Mesur;

ystyr “digwyddiad chwarae” (“play event”) yw unrhyw ddigwyddiad a gynhelir yn gyhoeddus at ddiben hyrwyddo chwarae;

ystyr “man agored” (“open space”) yw unrhyw dir sydd wedi ei osod allan fel gardd gyhoeddus, neu sy’n cael ei ddefnyddio at ddibenion adloniant cyhoeddus;

ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010.

(2) Yn y Rheoliadau hyn, dyma'r ystodau oedran—

(a)     3 oed ac yn is;

(b)      4 – 7 oed;

(c)      8 – 12 oed;

(d)      13 – 15 oed;

(e)      16 – 17 oed.

Materion i'w cynnwys yn yr asesiad

3. Rhaid i awdurdod lleol roi ystyriaeth i'r materion canlynol wrth asesu digonolrwydd cyfleoedd chwarae o fewn ei ardal awdurdod lleol—

(a)     o ran pob ystod oedran, nifer y plant sydd o fewn ei ardal;

(b)     anghenion plant o wahanol ddiwylliannau a chefndiroedd o fewn ei ardal;

(c)     y mannau lle y gall plant chwarae ynddynt, gan gynnwys—

                           (i)    mannau agored, a

                         (ii)    unrhyw fan arall;

(d)     darpariaeth chwarae dan oruchwyliaeth, gan gynnwys—

                           (i)    canolfannau hamdden,

                         (ii)    meysydd chwarae antur,

                       (iii)    cynlluniau chwarae yn ystod gwyliau,

                        (iv)    clybiau a grwpiau ieuenctid,

                          (v)    darpariaeth symudol, a

                        (vi)    unrhyw ddarpariaeth arall ar gyfer chwarae dan oruchwyliaeth;

(e)     p'un a oes tâl yn cael ei godi am ddarpariaeth chwarae ai peidio, a phan fo tâl yn cael ei godi, swm y tâl hwnnw;

(f)      y mesurau a ddefnyddir i hyrwyddo mynediad at chwarae, gan gynnwys—

                           (i)    cynlluniau gostegu traffig a chynlluniau strydoedd saff,

                         (ii)    llwybrau i gerddwyr,

                       (iii)    llwybrau beicio,

                        (iv)    trafnidiaeth gyhoeddus,

                          (v)    parcio,

                        (vi)    oriau agor y ddarpariaeth chwarae,

                      (vii)    hysbysebu'r ddarpariaeth chwarae,

                    (viii)    unrhyw ddigwyddiadau chwarae;

(g)     y gweithlu chwarae—

                           (i)    gweithwyr chwarae,

                         (ii)    gwirfoddolwyr chwarae,

                       (iii)    cyfleoedd hyfforddi i'r gweithlu chwarae,

                        (iv)    lefelau cymwysterau'r gweithlu chwarae;

(h)     lefel yr ymgysylltu â’r gymuned a chyfranogiad y gymuned, gan gynnwys—

                           (i)    grwpiau ieuenctid,

                         (ii)    cynghorau ysgol,

                       (iii)    cyrff llywodraethu ysgolion,

                        (iv)    grwpiau cymunedol;

(i)      i ba raddau y mae polisïau eraill awdurdod lleol yn dwyn i ystyriaeth yr angen i ehangu cyfleoedd chwarae i blant.

Ymgynghori

4. Wrth lunio'r asesiad, rhaid i awdurdod lleol ymgynghori â'r canlynol—

(a)     y plant;

(b)     y rhieni;

(c)     yr unigolion a’r sefydliadau â buddiant mewn chwarae,

sy’n briodol ym marn yr awdurdod lleol.

Cynllun Gweithredu

5.—(1) Rhaid i bob asesiad a lunnir gan awdurdod lleol gynnwys cynllun gweithredu.

(2)  Pan fo asesiad yn nodi—

(a)     bod y cyfleoedd chwarae i blant yn annigonol yn yr ardal awdurdod lleol, rhaid i'r cynllun gweithredu nodi pa gamau y mae angen eu cymryd i wella'r cyfleoedd i blant chwarae o fewn yr ardal awdurdod lleol honno, neu

(b)     bod y cyfleoedd chwarae i blant yn ddigonol yn yr ardal awdurdod lleol, rhaid i'r cynllun gweithredu nodi pa gamau y mae angen eu cymryd i gynnal y cyfleoedd i blant chwarae o fewn yr ardal awdurdod lleol honno.

Amseru’r Asesiad

6.(1) Rhaid i awdurdod lleol gwblhau ei asesiad cyntaf cyn pen 4 mis ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.

(2) Yn dilyn asesiad cyntaf rhaid i awdurdod lleol gwblhau asesiad bob 3 blynedd.

(3) Mae'r 3 blynedd y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (2) yn cychwyn o'r dyddiad y mae'n rhaid i’r asesiad cyntaf gael ei gwblhau arno.

(4) Rhaid i awdurdod lleol anfon copi o’r asesiad at Weinidogion Cymru.

Cyhoeddi

7. Rhaid i awdurdod lleol gyhoeddi ar ei wefan grynodeb o ganlyniadau'r asesiad.

8. Rhaid i awdurdod lleol adneuo crynodeb o ganlyniadau'r asesiad yn y llyfrgelloedd cyhoeddus, canolfannau hamdden, ysgolion a'r mannau eraill hynny sy’n briodol ym marn yr awdurdod lleol.

 

 

 

 

Gwenda Thomas

Y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

6 Hydref 2012

 



([1])           2010 mccc 1.